Friday, May 19, 2006

Hen bryd adio wbath newydd at y blog ma ar f'enaid i!
Ma gwaith di bod yn ddi-stop ar hyn o bryd ddeud gwir. Egsams di cychwyn heddiw!
Eshi adra dydd Llun (8fed o Fai) am wsos i drio adolygu dipyn at y bali egsams ma, ond mi gafodd na lai o waith nag oni i di obeithio gael ei gyflawni. Pan ma rhywun yn mynd adra, ma hi jesd yn braf chilio dydi, a mwynhau home-comforts!
Mi gafodd fy nghar fwy o sylw na'r gwaith ddeud gwir.Dwi di bod yn gweithio ar yr hen gar ers dipyn go-lew rwan, a bellach mae pethau yn argoeli yn dda!Dwi wrth fy modd efo hen geir rali a cheir retro.Os oes gyno chi ryw fath o syniad am y math o geir dwi'n son, mi fyddwch chi'n gwbod mai Mk1 ne Mk2 Escort ydi'r car i gael, ond Mk1 Fiesta sydd gen i ar hyn o bryd.Mi ges i'r car fel car 'bog-standard', ond bellach mae bron yn barod ar gyfer cystadlu mewn ralis lleol!Bu andros o waith dros yr haf wrth i mi a dad adeiladu injan newydd ar gyfer ralio a'i rhoi yn y car - mi gymerodd hi oriau i gael pob dim yn iawn!Ond mi oedd hi werth y gwaith!!Mi fydd y gawell-rolio newydd i mewn toc, wedyn i ffwr a ni fel roced am hwyl a sbri!!!

Dyma lun o'r car heb ei orffen:


Ag isod, dyma lun o du-mewn y car cyn ei orffen:

Yr egsam cynta wedi bod heddiw - Clinical Integrative - lle dachi yn cael scenarios pythefnos cyn yr egsam i ddadansoddi, a wedyn cael egsam ar y sdwff ddylsa bod chi di ffindio allan am y scenarios. Mi aeth petha yn dda ofnadwy, gan fod y cwestiynna a gawsom yn hynod o debyg i gwestiynnau y 'past-papers'. Piti na fasa pob egsam mor hawdd de!

Wedi cael chilio am heno, a chychwyn ar waith eto bora fory at egsam dydd Llun.

Nos da.x

0 Comments:

Post a Comment

<< Home